Gorffennol
Rydym yn ddiolchgar iawn i gyllidwyr ein grantiau Arwain Leader am eu holl gefnogaeth, cyllid, monitro a chymorth parhaus yr ydym wedi'i dderbyn dros y tair blynedd diwethaf. Ein diolch i'r holl wirfoddolwyr, mentoriaid, aelodau'r tîm ac wrth gwrs - Aelodau'r Bwrdd, yn y gorffennol ac yn y presennol am eu holl waith caled a'u cyflawniadau gan bawb a fu'n rhan o'n cael ni i'r pwynt hwn. Nod ein grant yw cefnogi saith astudiaeth ddichonoldeb gan gynnwys: Tai, Trafnidiaeth, Ynni, Bwyd, Hamdden a Llesiant ynghyd â chynaliadwyedd yr uchod trwy weithrediadau ac argymhellion. Rydym hefyd wedi datblygu Rhwydweithiau Eco-Dai, Trafnidiaeth a Llesiant.
Presennol
Ar hyn o bryd rydym yn casglu'r holl fanylion a dangosyddion perfformiad i sicrhau bod ein hymrwymiad i Arwain yn cael ei gyflawni'n llawn. Yn anffodus, mae'n rhaid i ni gwblhau'r cytundebau gwasanaeth gydag aelodau ein tîm wrth i'w contractau ddod i ben ar 31 Mawrth 2021. Fodd bynnag, rydym wedi cael estyniad o dri mis i amseriad y prosiect, er nad oes unrhyw arian pellach i'n galluogi i gwblhau ein holl astudiaethau dichonoldeb, y rhwydweithiau a'r hybiau. Hoffem dynnu sylw at a diolch i Swyddog Datblygu Prosiect Hedda, am ei gwaith ar y pum astudiaeth dichonoldeb olaf ac am gynorthwyo i ddatblygu ein rhwydwaith lles.
Dyfodol
“Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf ac unig un y byd, fydd y siaradwr gwadd yn lansiad dogfen “Y Deng Mlynedd Nesaf” Parc Llesiant Bronllys. “Cynta’ arall” i Gymru yw ein cynigion arloesol a dychmygus ar gyfer Bronllys, sy’n boblogaidd iawn.”
